Yr Orsaf

English

Mae cartref Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4 yn RAF y Fali ar Ynys Môn. Mae’r ysgol yn gyfrifol am hyfforddi cenhedlaeth nesaf y DU o beilotiaid awyrennau ymladd o’r radd flaenaf.

Mae Criwiau Awyr hefyd yn hyfforddi yma ar gyfer ymgyrchoedd dros fynyddoedd a moroedd ym mhedwar ban byd.

Mae RAF y Fali hefyd yn gartref i’r Gwasanaeth Achub Mynydd, sef unig ased chwilio ac achub pob tywydd y fyddin sy’n gallu ymateb yn gyflym i ddamweiniau.

Lloches mewn adfyd

Cadlywydd

CAPTEN GRŴP G J J (GEZ) CURRIE OBE ADC MA RAF

Ymunodd Currie â’r RAF yn 1997 fel Swyddog Rheoli Traffig Awyr, gan wasanaethu yn RAF Lyneham a Leuchars i ddechrau. Ym mis Ebrill 2024, daeth yn Gadlywydd Gorsaf RAF y Fali. Cyn hynny, roedd yn Uwch Swyddog Staff Awyr yng Ngrŵp 11.

Yn 2003, aeth i Irac ar Ymgyrch Telic ac wedyn fe’i penodwyd i’r Uned ATC Tactegol, lle bu’n gyfrifol am sefydlu Parthau Glanio Dros Dro ledled y byd ac ennill ei fathodyn ‘Parachute Wings’ milwrol. Yn 2004 aeth i Affganistan cyn dychwelyd yn 2006 i roi Parth Glanio Dros Dro Camp Bastion ar waith. Cafodd ei ddyrchafu’n Arweinydd Sgwadron yn 2008, a’i benodi i Ganolfan Radar Ardal yr Alban.  Yna, yn 2010, aeth i weithio ar Ymgyrch Herrick, gan ennill medal Cymeradwyaeth y Frenhines am Wasanaeth Gwerthfawr ar ôl y tymor dyletswydd hwn.

Yn 2010 cafodd ei benodi i Ganolfan Rheoli Awyr 1, RAF Scampton ac yna i PJHQ fel Swyddog Desg Cyprus yn 2013. Yn dilyn dyrchafiad yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cafodd Currie ei benodi i Grŵp Hyfforddiant Cyfunol y Fyddin fel Cynghorydd Awyr. Yn 2015, aeth i Goleg Rheoli a Staff Brunei i gwblhau MA mewn Diogelwch Rhyngwladol. Yn 2017, daeth yn rheolwr ar unig Uned Radar Ardal yr RAF yn Swanwick gan dderbyn OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2021. Ar ôl Swanwick, symudodd i’r Awdurdod Hedfan Milwrol fel Dirprwy Bennaeth Rheoleiddio.

Pwy Sydd Wedi’u Lleoli Yma

Squadrons

Units

Lle Rydym Yn Cefnogi

Hanes

Ers i'r Orsaf agor ym mis Chwefror 1941, mae wedi bod yn gartref i lawer o awyrennau gwahanol ac mae wedi cael sawl rôl. I ddechrau, roedd gorsaf RAF y Fali yn rhan o Grŵp Rhif 9, Fighter Command, ac roedd yn cael ei galw yn RAF Rhosneigr. Ar ôl deufis, cafodd ei hailenwi’n RAF y Fali.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yr Orsaf yn gweithredu fel gorsaf ymladd er mwyn amddiffyn Glannau Mersi a Môr Iwerddon rhag gweithgarwch y gelyn. O 1943 ymlaen, daeth yn lleoliad pwysig i awyrennau USAAF a oedd yn cyrraedd o’r Unol Daleithiau i helpu ag ymdrechion y rhyfel.

Ar ôl y rhyfel, daeth yn orsaf hyfforddiant hedfan ar gyfer yr Awyrlu Brenhinol a’r Llynges Frenhinol. Heddiw, mae’n gartref i Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4, sy’n gyfrifol am weithredu’r BAE Hawk TMk2. Mae’r jet datblygedig hwn, gyda’i gaban a’i afioneg fodern, yn darparu’r hyfforddiant perffaith sydd ei angen ar gyfer peilotiaid sy’n mynd ymlaen i hedfan awyrennau rheng flaen, megis y Typhoon a’r F-35.

Ers diwedd 2019, mae RAF y Fali wedi bod yn cynnal yr Hyfforddiant Hedfan Sylfaenol; sef yr ail gam yn hyfforddiant y Llu Awyr Brenhinol a’r Llynges Frenhinol ar gyfer hedfan jetiau cyflym. Yn dilyn Hyfforddiant Hedfan Elfennol, bydd yr Hyfforddiant Hedfan Sylfaenol, sy’n defnyddio’r awyren Texas T1, yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu Hyfforddiant Hedfan Uwch lle byddant yn defnyddio’r jet Hawk T2.

Dyddiadau allweddol

1941   Agorodd yr Orsaf fel RAF Rhosneigr.

1941-1945   Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yr Orsaf yn gweithredu fel gorsaf ymladd.

1948   Ffurfiwyd Gwasanaeth Achub Mynydd yr Awyrlu.

1960   Cyrhaeddodd Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4 yn RAF y Fali.

1962   Dechreuodd Hyfforddiant Chwilio ac Achub yn RAF y Fali.

2009   Hedfanodd yr Hawk TMk2 ei daith gyntaf o RAF y Fali.

Cysylltu â RAF y Fali