Y Sgwadron
Mae Gwasanaeth Achub Mynydd yr RAF yn dod o dan Adain Logisteg Ymgyrchol 85. Wedi'i sefydlu gan yr Awyr-Lefftenant (a aeth wedyn yn Arweinydd Sgwadron) George Graham yn 1943, a’i dyfu gan wirfoddolwyr ers hynny, mae pob un o Dimau Achub Mynydd yr RAF yn cael ei reoli gan staff parhaol a gwirfoddolwyr rhan-amser ar draws y tri Gwasanaeth.
Mae Pencadlys MRS yr RAF yn RAF Y Fali, a nhw sy’n rheoli ac yn dyrannu tasgau ar draws y timau yn RAF Leeming, RAF Lossiemouth ac RAF Y Fali.
Dymuna Gwasanaeth Achub Mynydd yr RAF ddiolch i OutdoorActive am eu cefnogaeth fel noddwr.
Datganiad o Fwriad
Creu a chynnal ymateb parodrwydd-uchel o'r radd flaenaf i ddigwyddiadau, ar gyfer gweithrediadau Chwilio ac Achub a gweithrediadau Rheoli Awyrennau ar ôl Gwrthdrawiadau. Gallu anfon adnoddau allan ym mhob tywydd yn hunangynhaliol – ym mhob rhanbarth yn y DU ac yn fyd-eang – i gefnogi gweithrediadau hedfanaeth a chadernid y Weinyddiaeth Amddiffyn.