Awyren hyfforddi 2 sedd, traws-sonig, adain isel, gwbl aerobatig.
Mae’r BAe Systems Hawk T2 yn jet hyfforddi 2 sedd perfformiad uchel sydd ag afioneg uwch a radar synthetig i efelychu awyrennau ymladd rheng flaen fel y Typhoon. Mae’n cael ei defnyddio’n bennaf gan yr RAF ar gyfer hyfforddiant jetiau uwch, ac mae’n paratoi peilotiaid ar gyfer amgylcheddau tactegol cymhleth.
Rôl
Mae’r BAe Systems Hawk T2 (neu’r Hawk 128) yn jet hyfforddi aerobatig, dwy sedd, wedi’i dylunio gyda rheolyddion tebyg i’r jet ymladd Typhoon. Gyda "chaban gwydr" uwch, mae’n cynnig hyfforddiant realistig sy’n cyrraedd safonau nawr ac yn y dyfodol, gan drochi peilotiaid mewn senarios tactegol cymhleth fel rhan o System Hyfforddiant Hedfan Milwrol y DU (UKMFTS). Mae’r hyfforddiant jetiau cyflym mwyaf datblygedig ar gyfer peilotiaid yr RAF yn cael ei gynnal ar yr Hawk T2.
Manylebau Technegol
Manylebau
Galluoedd
Mae gan yr Hawk T2 gyswllt data sy’n rhoi radar synthetig i beilotiaid ar gyfer hyfforddiant rhyng-gipio ac yn eu helpu i olrhain jetiau Hawk T2 eraill yn yr ardal. Mae ganddi hefyd nodwedd efelychu synhwyrydd ar gyfer hyfforddiant Rhyfela Electronig (EW) realistig, sy’n caniatáu i beilotiaid ymarfer amddiffyn rhag Taflegrau Daear i’r Awyr (SAMs). Mae dyluniad yr awyren yn cynnwys trwyn a chynffon wedi’u haddasu gydag esgyll ychwanegol a derbynnydd rhybudd radar, ynghyd â chôn cynffon newydd sy’n cynnal parasiwt brêc, gan wella’r pellter stopio o’i gymharu â’r Hawk T1. Mae’r model Hawk T1 yn cael ei hedfan gan dîm aerobatig Red Arrows yr RAF.
Adnabod yr Hawk T2 (CY)
Interactive 3D model of the Hawk T2 (CY) aircraft follows, you can interact with the model using buttons and mouse.
Llusgwch fodel yr awyren i weld onglau eraill


