Y Sgwadron
Mae Sgwadron Ymladd XXV yn darparu hyfforddiant jetiau cyflym uwch i fyfyrwyr-beilotiaid yr Awyrlu Brenhinol a'r Llynges Frenhinol.
Maent yn rhan o gyd-fenter System Hyfforddiant Hedfan Milwrol y DU (UKMFTS) ac Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4 (4FTS).
Mae peilotiaid yn mynd o Sgwadron XXV(F) i barhau â'u hyfforddiant tactegol ac arfau gyda Sgwadron IV(AC) yn RAF Y Fali, cyn symud ymlaen i'w math nhw o awyren rheng flaen.
Mae’r awyrennau y mae’r Sgwadron wedi’u hedfan yn cynnwys y Sopwith Snipe, Hawker Fury, Gloster Gladiator, Meteor a Javelin, Bristol Blenheim, de Havilland Mosquito, Panavia Tornado F3.