Awyren un injan dyrboprop sy’n cael ei defnyddio ar gyfer Hyfforddiant Hedfan Sylfaenol.
Mae’r Beechcraft Texan T-6C, sy’n cael ei galw yn Texan T Mk1 yn y RAF, yn awyren un injan dyrboprop sy’n cael ei defnyddio ar gyfer Hyfforddiant Hedfan Sylfaenol. Mae ganddi ddyluniad amlbwrpas ar gyfer gwahanol lefelau o hyfforddiant.
RÔL
Mae’r Beechcraft Texan T-6C, sy’n cael ei galw yn Texan T Mk1 yn y RAF, yn awyren un injan dyrboprop sy’n cael ei defnyddio ar gyfer Hyfforddiant Hedfan Sylfaenol. Mae’n gweithredu o RAF y Fali a graddiodd y myfyrwyr peilot cyntaf yn 2020.
Manylebau Technegol
Manylebau
Galluoedd
Mae gan yr awyren gaban peilot gwydr a dangosyddion sydd â sawl swyddogaeth, Dangosydd Pen-I-Fyny, dau gyfrifiadur afioneg, a rheolyddion ar y Sbardun a’r Ffon (HOTAS). Mae wedi cael ei dylunio ar gyfer hyfforddiant amlbwrpas, ac mae’n gallu mynd mor gyflym â 316 not (0.67 Mach) ac yn gallu delio â grymoedd rhwng -3.5G a +7G.

