HIVE
EnglishRAF y Fali HIVE
Y Ganolfan GymunedolRAF y Fali
Caergybi
LL65 3NY
Ebost: [email protected]
Facebook: facebook.com/RAFValleyHIVE
Ffôn: 01407 762241 Est 4060
Oriau agor: Dydd Llun – dydd Iau, 0830 – 1630 a dydd Gwener, 0830 – 1600
Gofal plant
Mae RAFAKidz y Fali yn rhan o’r ardal gymunedol, y tu hwnt i’r wifren, drws nesaf i siop Costcutter. Mae RAFAKidz y Fali yn cynnig gofal plant i blant rhwng 3 mis a 5 oed, ac mae’n derbyn cyllid gan Gynnig Gofal Plant Cymru.
Ffôn: 01407 885 000
E-bost: [email protected]
Oriau Agor: Dydd Llun – dydd Gwener, 0730 – 1800
Tai
Mae Llety i Deuluoedd y Lluoedd Arfog ar gael yn RAF y Fali a Rhosneigr. Pinnacle Service Families sy’n rheoli Llety i Deuluoedd y Lluoedd Arfog ar ran y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn (DIO). Cysylltwch â Swyddog Cymorth Cymunedol y Lluoedd Arfog i gael rhagor o wybodaeth:
Ffôn: 01407 762 241 Est 4061
Llety Dros Dro a Chyswllt â’r Teulu
Mae gan RAF y Fali ddau dŷ tair ystafell wely ar Benrhyn Close sy’n dai lles, ac y gellir eu rhentu i staff yr RAF.
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu’r cyfleuster hwn, gadewch neges ar wasanaeth negeseuon Tŷ Cyswllt (Contact House).
Ffôn: 01407 762241 Est 4060/4061
Iechyd a Lles
Canolfan feddygol
Darperir gofal meddygol i Bersonél y Lluoedd Arfog ac aelodau’r teulu gan Ganolfan Feddygol Rimon Than.
Gall aelodau’r teulu hefyd dderbyn gofal meddygol gan bractisau meddygon teulu’r GIG neu GIG 111 Cymru - Canlyniadau Chwilio
Manylion Cyswllt Canolfan Feddygol Rimon Than:
Ffôn: 01407 762 241 Est 4000
Oriau Agor: Dydd Llun/Mawrth/Iau/Gwener, 0800 – 0800 – 1700 a dydd Mercher, 0800 – 1200
Canolfan ddeintyddol
Darperir gofal deintyddol i Bersonél y Lluoedd Arfog gan Ganolfan Ddeintyddol yr Orsaf.
Ni all aelodau o’r teulu ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, a rhaid iddyn nhw ddod o hyd i ofal deintyddol yn yr ardal leol.
Manylion Cyswllt y Ganolfan Ddeintyddol:
Ffôn: 01407 762 241 Est 4004
Oriau Agor: Dydd Llun – dydd Mawrth, 0800 – 1600 a bob yn ail ddydd Mercher, 0800 – 1530
Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)
Mae SSAFA yn darparu cefnogaeth gydol oes i unrhyw un sy’n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol, ym Myddin Prydain neu yn yr Awyrlu Brenhinol ar hyn o bryd, neu sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, yn ogystal â’u dibynyddion.
Mae gwirfoddolwyr SSAFA yn delio ag amrywiaeth eang o faterion cymdeithasol gan gynnwys profedigaeth, cyllid, tai, perthnasoedd ac iechyd meddwl.
Nid oes gweithiwr SSAFA yn RAF y Fali, ond mae’n bosibl trefnu apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gais.
Ffôn: 0800 058 4690 (y DU)
020 4570 3939 (Tramor)
Sgwrs Fyw: ssafa.org.uk/raf
WhatsApp: +4420 3769 0808
Caplaniaid
Mae Caplan RAF y Fali yn gwasanaethu yn y Ganolfan Gymunedol, a hefyd yn Eglwys Sant Mihangel, sef Eglwys Gorsaf RAF y Fali.
Cynhelir gwasanaethau’r eglwys ar ddydd Sul am 10am. Cynhelir Ysgol Sul ar gyfer plant o bob oed.
Cysylltu â’r Caplandy:
Ffôn: 01407 762241 Est 4058 neu 07876 131 265
Chwaraeon
Campfa’r orsaf
Mae Campfa RAF y Fali yn gyfleuster 24 awr. Gellir cael mynediad i'r Gampfa drwy system ffob allwedd. Dylid talu aelodaeth ag arian parod yn nerbynfa Campfa RAF y Fali, ac mae’r prisiau’n amrywio ar gyfer Personél y Lluoedd Arfog, Aelodau o’r Teulu, a Chontractwyr. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys stiwdio sbin, ardal pwysau rhydd, campfa aml-lawr, a chaeau a chyrtiau chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored.
Ffôn: 01407 762241 Est 4049
Mae gan aelodau Campfa RAF y Fali hawl i ddefnyddio Clwb Golff Rhosneigr am ffi ostyngol. Gall aelodau'r Gampfa hefyd ddefnyddio’r pwll nofio yng Nghanolfan Hamdden Caergybi. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, cysylltwch â’r dderbynfa.
Cymdeithasol
Bariau a chaffis
Caffi a Bistro Trewan
Caffi a Bistro Trewan yw cyfleuster pob rheng RAF y Fali sydd ar gael i Gymuned Gyfan y Llu. Mae ali fowlio’r Orsaf, DragonBowl, yn rhan o Gaffi a Bistro Trewan.
Ffôn: 01407 762 241 Est 4070
Oriau Agor: Dydd Mawrth – dydd Iau, 1900 – 2300 a dydd Sadwrn, 2100 – 1800
Caffi’r Ystafell Hanes (Starbucks)
Mae Starbucks ar gael yn yr Orsaf fel rhan o Gaffi’r Ystafell Hanes. Mae ar gael i bawb sydd â cherdyn, gan gynnwys aelodau o’r teulu.
Oriau Agor: Dydd Llun – dydd Iau, 0800 – 1530 a dydd Gwener, 0800 – 1445
Plant a phobl ifanc
Airplay
Mae gweithgareddau a chlybiau plant a phobl ifanc yr orsaf yn cael eu rhedeg gan Airplay.
Mae gwahanol sesiynau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos ar gyfer plant a phobl ifanc.
- Clwb ‘Ben’: 5 – 7 oed ar ddydd Iau, 1600 – 1730
- Iau: 8 – 11 oed ar ddydd Mawrth, 1600 – 1800
- Hŷn: 11 oed a hŷn ar ddydd Iau, 1800 – 2000.
Dylai teuluoedd gofrestru ar Airplay Connect cyn mynd i’r sesiynau hyn.
E-bost: [email protected]
Grŵp Rhieni a Phlant Bach
Mae Grŵp Rhieni a Phlant Bach RAF y Fali yn gyfleuster sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ar gyfer plant 5 oed ac iau, gyda mannau chwarae meddal, chwarae byd bach, celf a chrefft, ac ardal benodol ar gyfer babanod. Codir ffi fach ar bob plentyn fesul defnydd.
Cyfleusterau eraill
Siop Ail-law
Mae’r Siop Ail-law yn RAF y Fali yn gyfleuster cymunedol i’r Llu Cyfan lle gall pobl brynu a gwerthu nwyddau ail-law. Mae’n rhan o’r ardal gymunedol, y tu hwnt i’r wifren, ac mae ar agor i’r cyhoedd hefyd.
Oriau Agor: Dydd Mawrth a dydd Iau, 0900 – 1330 a dydd Mercher cyntaf y mis, 1830 – 2000 (dim ond yn ystod y Tymor).
Costcutter
Costcutter yw siop yr Orsaf ac mae’n rhan o’r ardal gymunedol, y tu hwnt i’r wifren, drws nesaf i RAFAKidz y Fali.
Oriau Agor: Dydd Llun – dydd Gwener, 0700 – 1900 a dydd Sadwrn, 1000 – 1900.
Sinema Jetflix
Mae sinema Gorsaf RAF y Fali, Jetflix, yn dangos y ffilmiau diweddaraf sawl gwaith yr wythnos, yn ogystal â chlasuron o fyd y ffilmiau. Mae’n rhaid archebu lle.
Oriau Agor: Dydd Llun a dydd Iau, 1900 a dydd Sul, 1400.
Canolfan Cyn-filwyr RAF y Fali
Mae Canolfan Cyn-filwyr RAF y Fali yn rhan o adeilad Jetflix, ac mae’n cael ei defnyddio i gynnal digwyddiadau cymdeithasol misol i Gyn-filwyr, yn ogystal â sesiynau crefft a cherddoriaeth yn rheolaidd. Mae’r cyfleuster ar agor i Gyn-filwyr y Tri Llu Arfog o bob rhan o Ogledd Cymru.
E-bost: [email protected]