Ymholiadau gan y cyfryngau

English

Cysylltwch â’r MCO:

E-bost: [email protected]

Ffôn: 01407 762241 x7834

Pan fyddwch chi’n cyrraedd

Rhaid i chi fynd i Brif Ystafell y Warchodfa wrth y Brif Giât. Rhaid i chi ddod â dogfen adnabod â llun arni gyda chi, fel trwydded yrru neu basbort.

Dylai’r aelod o staff a wnaeth eich gwahodd i RAF y Fali gwrdd â chi ym Mhrif Ystafell y Warchodfa

Gwybodaeth am ymweld â ni

Mae gwybodaeth i ymwelwyr ar gael ar ein tudalen Facebook.

Cyswllt mewn argyfwng

Mewn argyfwng, cysylltwch â Phrif Ystafell y Warchodfa.

Rhif ffôn ystafell y warchodfa: 01407 742679 x7380 

Ar gyfer digwyddiad sy’n ymwneud â Diogelwch yn yr Awyr, cysylltwch â’r Rheolwr Gweithrediadau ar Ddyletswydd ar 01407 762241 x7404, neu os na fydd y llinellau tir yn gweithio, ffoniwch 07919305844.

I roi gwybod am ddigwyddiad nad yw’n ymwneud â Diogelwch yn yr Awyr, cysylltwch â’r Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu ar 01407 762241 x7834.

I gael rhagor o gymorth, neu ar gyfer y rheini sy’n gwasanaethu dramor ar Ymgyrchoedd neu Ymarferion, ewch i’r dudalen Beth i’w wneud mewn argyfwng teuluol.

Profiad gwaith

Nid yw RAF y Fali yn cynnig lleoliadau profiad gwaith.

Ymweliadau ysgolion

Rhoddir blaenoriaeth i ymweliadau ysgolion Ynys Môn a Gogledd Cymru. I drefnu ymweliad, cysylltwch â’r Swyddog Ymgysylltu a Chyfathrebu: 

Ffôn: 01407 762241

Y Cadetiaid Awyr

I drefnu i ddod i’r Orsaf i ymweld â sgwadron y Cadetiaid, cysylltwch â Swyddog Cyswllt y Cadetiaid Awyr (ACLO):

E-bost: [email protected]

Ffôn: 01407 762241

Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol

I drefnu ymweliad â changen Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol yn RAF y Fali, cysylltwch â Swyddog Cyswllt Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol:

Ffôn: 01407 762241