Hedfan yn isel
Cwyno am hedfan yn isel
Byddwn yn delio â chwynion yn ôl lleoliad y gŵyn.
RAF y Fali sy’n delio ag ymholiadau gan drigolion Ynys Môn.
Gallwch gofrestru ymholiadau o Ynys Môn dros y ffôn neu’n ysgrifenedig.
Yn ysgrifenedig, ysgrifennwch at Weithrediadau’r Orsaf, Cwynion am Hedfan, Y Llu Awyr Brenhinol, y Fali, Caergybi, Ynys Môn, LL65 3NY
Dros y ffôn:
Ffôn: 01407 762241 x7824
Os nad ydych chi yn Ynys Môn a’ch bod chi eisiau cofrestru cwyn, hyd yn oed os ydych chi’n credu bod yr awyren yn dod o RAF y Fali, mae’r manylion ar GOV.UK.
Hedfan Dronau
Rhaid i weithredwyr sy’n hedfan dronau ger unrhyw faes awyr milwrol sicrhau eu bod yn gwybod am bolisi’r DU i weithredu’n ddiogel. Mae’r Cod Dronau yn rhan o gyngor a chanllawiau yr Awdurdod Hedfan Sifil i weithredwyr dronau.
Mae RAF y Fali ac RAF Mona yn feysydd glanio milwrol gwarchodedig gyda Pharthau Cyfyngu ar Hedfan (FRZs) parhaol. Mae’r FRZs ar waith 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos ac mae’r cyfyngiadau’n berthnasol i bob drôn, beth bynnag fo’i bwysau neu ei bwrpas.
Rhaid i geisiadau i ddefnyddio drôn ym Mharthau Cyfyngu ar Hedfan (FRZs) RAF y Fali neu RAF Mona gael eu gwneud yn ysgrifenedig o leiaf 7 niwrnod ymlaen llaw a’u hanfon i: [email protected]
Hedfan gyda’r nos
Fel rheol bydd hyfforddiant hedfan gyda’r nos yn digwydd o ddydd Llun i ddydd Iau yn ôl yr angen.
Byddwn yn rhoi gwybod ymlaen llaw i drigolion am hedfan gyda’r nos drwy ein tudalen Facebook. Chwiliwch am 'RAF Valley' ar Facebook neu dilynwch y ddolen ar yr adran 'Diweddariadau am Hedfan'.
Ardal wylio
Cewch wylio awyrennau RAF y Fali yn ddiogel yn yr ardal wylio wrth y bont reilffordd, gyferbyn â phrif giât yr Orsaf.
Llawlyfr Meysydd Glanio Amddiffyn (DAM)
Mae’r Llawlyfr Meysydd Glanio Amddiffyn (DAM) yn cynnwys y data maes glanio diweddaraf ar gyfer RAF y Fali. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gweithrediadau’r Orsaf ar: [email protected] neu 01407762241 Est 7404
Cael diweddariadau am hedfan
Bydd rhybudd ymlaen llaw am hedfan anarferol gyda’r nos a hedfan a allai darfu arnoch chi os ydych chi’n byw ger yr Orsaf ar gael ar dudalen Facebook a chyfrif Twitter RAF y Fali.
Efallai bydd rhesymau diogelwch yn golygu na fyddwn yn gallu rhoi rhybudd am rai ymarferion hedfan, er enghraifft ymgyrchoedd milwrol.