English

Mae’r EC145 - (Jupiter HT1 erbyn hyn, a elwir hefyd yn H145) yn gerbyd awyr â dwy injan.

Mae’r Jupiter HT Mk.1 yn darparu hyfforddiant uwch ar hofrenyddion gydag afioneg ddigidol arloesol sy’n gwella diogelwch ac ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd. Mae’n paratoi criwiau awyr ar gyfer teithiau morol, teithiau mynydd a theithiau chwilio ac achub.

Rôl

Mae Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 1 yn defnyddio’r Airbus BK117 D2 (Jupiter HT Mk1) i hyfforddi criwiau hofrennydd ar gyfer y Llynges Frenhinol, Byddin Prydain a’r RAF o dan System Hyfforddiant Hedfan Milwrol y DU (UKMFTS). Ers mis Ebrill 2018, mae Ascent Flight Training yn cynnal hyfforddiant hofrenyddion yn RAF Shawbury ac RAF y Fali.

Galluoedd

Mae’r Jupiter HT Mk1, fel Juno HT Mk1 (H135), wedi cyflwyno technoleg ddigidol i’r rhaglen hyfforddi hofrenyddion. Mae cabannau Juno a Jupiter yn cynnwys afioneg ddiweddaraf Airbus ar gyfer Hofrenyddion, sy’n gwella diogelwch ac ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd. Mae’r awyrennau’n cael eu defnyddio gan Sgwadron 202 yn RAF y Fali, sy’n rhoi hyfforddiant morol, hyfforddiant mynydd a hyfforddiant chwilio ac achub i griwiau hofrenyddion.

Rolau

Hanes y Jupiter HT Mk1

Yn 1977, daeth cwmni MBB o’r Almaen a chwmni Kawasaki o Japan at ei gilydd i ddylunio BK117, hofrennydd aml-swyddogaeth â dwy injan a drysau cregynnog dwbl i lwytho. Hedfanodd y prototeip cyntaf yn 1979, a chawsant eu danfon at ddefnyddwyr gyntaf yn 1983.

Ar ôl uno â DASA, bu Eurocopter yn gweithio gyda Kawasaki i ddatblygu fersiynau gwell, gan arwain at gyflwyno’r EC145 (Jupiter HT1) yn 1999, a oedd yn cyfuno darn cefn y BK117 gyda chaban EC135. Cafodd EC145T2, a gyflwynwyd yn 2011 gydag injanau newydd a Fenestron , ei ddatblygu’n ddiweddarach yn H145, ac mae saith hofrennydd Jupiter HT1 yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Podlediad Inside Air