Yr Orsaf

English

Mae cartref Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4 yn RAF y Fali ar Ynys Môn. Mae’r ysgol yn gyfrifol am hyfforddi cenhedlaeth nesaf y DU o beilotiaid awyrennau ymladd o’r radd flaenaf.

Mae Criwiau Awyr hefyd yn hyfforddi yma ar gyfer ymgyrchoedd dros fynyddoedd a moroedd ym mhedwar ban byd.

Mae RAF y Fali hefyd yn gartref i’r Gwasanaeth Achub Mynydd, sef unig ased chwilio ac achub pob tywydd y fyddin sy’n gallu ymateb yn gyflym i ddamweiniau.

Lloches mewn adfyd

Cysylltu â RAF y Fali

Cadlywydd

CAPTEN GRŴP G J J (GEZ) CURRIE OBE ADC MA RAF

Ymunodd Currie â’r RAF yn 1997 fel Swyddog Rheoli Traffig Awyr, yn RAF Lyneham a Leuchars ac yna TacATC. Fe'i leolwyd ar Ymgyrch Telic (Irac), 2003, ac Ymgyrch Herrick (Affganistan) yn 2004; 2006; 2010; gan ennill Canmoliaeth y Frenhines am Wasanaeth Gwerthfawr. Cafodd ddyrchafiadau i rolau allweddol gan gynnwys PJHQ, Cynghorydd Awyr a Chadlywydd RAF(U) Swanwick, cwblhaodd MA mewn Diogelwch Rhyngwladol yn 2015 a derbyniodd OBE yn 2021. Ym mis Ebrill 2024, daeth yn Gadlywydd Gorsaf RAF y Fali.

Hanes

Roedd yr Orsaf a agorodd ym mis Chwefror 1941 yn rhan o Grŵp Rhif 9, Fighter Command, ac roedd yn cael ei galw yn RAF Rhosneigr. Ar ôl deufis, cafodd ei hailenwi’n RAF y Fali.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yr Orsaf yn gorsaf ymladd i amddiffyn Glannau Mersi a Môr Iwerddon rhag gweithgarwch awyr y gelyn. O 1943 ymlaen, daeth yn ganolfan bwysig i awyrennau USAAF a oedd yn cyrraedd o’r Unol Daleithiau i helpu gydag ymdrech y rhyfel.

Ar ôl y rhyfel, daeth yn orsaf hyfforddiant hedfan ar gyfer yr Awyrlu Brenhinol a’r Llynges Frenhinol. Heddiw, mae’n gartref i Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4, sy’n gweithredu’r BAE Hawk TMk2. Mae’r jet hwn, gyda’i afioneg fodern, yn darparu’r hyfforddiant rhagbaratool delfrydol i beilotiaid sy’n symud ymlaen i awyrennau rheng flaen fel y Typhoon a’r F-35.

Ers 2019, mae RAF y Fali yn gartref i Hyfforddiant Hedfan Sylfaenol; sef ail gam yr hyfforddiant Jetiau Cyflym ar gyfer yr Awyrlu Brenhinol a’r Llynges Frenhinol. Yn dilyn Hyfforddiant Hedfan Elfennol, mae Hyfforddiant Hedfan Sylfaenol yn defnyddio awyren hyfforddi tyrbo-brop uwch y Texan T1, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer Hyfforddiant Hedfan Uwch ar y jet hyfforddi Hawk T2.

Dyddiadau allweddol

1941   Agorodd yr Orsaf fel RAF Rhosneigr.

1941-1945   Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yr Orsaf yn gweithredu fel gorsaf ymladd.

1948   Ffurfiwyd Gwasanaeth Achub Mynydd yr Awyrlu.

1960   Cyrhaeddodd Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4 yn RAF y Fali.

1962   Dechreuodd Hyfforddiant Chwilio ac Achub yn RAF y Fali.

2009   Hedfanodd yr Hawk TMk2 ei daith gyntaf o RAF y Fali.